Morris RichardJONES4 Mai, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Bryn Gro, Llanllyfni, yn 88 mlwydd oed.
Priod addfwyn Jean, a thad cariadus Sioned, Ella, Ferona a'r diweddar Sharon. Hefyd tad-yng-nghyfraith hoff a thaid a hen-daid balch. Bydd yn golled fawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd fore Gwener, 30 Mai, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Morris tuag at Ymchwil Cancr.
Ymholiadau i
Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates